"...Wel helo na blantos amigos! Gadewch i mi ‘adrodd ‘chydig o hanes yr orsaf wrthych. Mae Gorsaf Hud yn bell i fyny yn y cymylau, ym mhentref hudol Llanlledrith.
Mae’n gartref hapus i fi, Senorita Dolores Jones, ac i Dafs a Del y porthorion, sy’n fy helpu i gadw’r lle’n dwt ac yn daclus!
‘Dyw Gorsaf Hud ddim fel unrhyw adeilad arall yn y byd. Cafodd ei hadeiladu amser maith yn ôl, ar gwmwl arbennig iawn – cwmwl sy’n casglu breuddwydion wrth iddo symyd yn ysgafn drwy’r awyr yn ystod y nôs.
Fe adeiladwyd yr orsaf ar y cwmwl yma , gan ddefnyddio tomen anferthol o hud, pentwr helaeth o ledrith a llond pwll o ddychymyg – dyna sy’n dal Gorsaf Hud at ei gilydd.
Gan fod Llanlledrith yn bentref cymylog, ‘dyw Gorsaf Hud byth yn yr un lleoliad ddwywaith, a does dim dwi’n ei hoffi fwy na chwifio dwylo ar holl blant y byd o ffenestri hirsgwar yr ystafell felen – felly byddwch yn siwr o graffu'n ofalus y tro nesaf i chi weld cwmwl anghyffredin yn yr awyr...!"