Skip to content

S4C

Dwynwen

Dwynwen

Helo ‘na bawb! Dwynwen ydw i, a fi sy’n gwerthu tocynnau ar y Tren Bach Hud. Tocyn a gwên i bawb ar y trên!

Dwi’n mwynhau teithio i Lanlledrith a nôl a chael cyfarfod pob mathau o bobl difyr, fel y Dychmygwyr, felly mae’r swydd yma’n berffaith i mi!

Dwi wastad wedi gweithio ar y trên bach hud - cyn i mi fod yn feistres tocynnau, roeddwn yn gweithio yn yr ystafell injan, yn rhawio glo i fewn i’r ffwrnais stêm. Blantos bach am waith caled, yn rhawio a rhawio a rhawio yn yr holl lwch a huddug, o fore gwyn tan nos!

Ond ers i’r injan droi’n un trydannol, yr unig beth sy’n cael ei danio bellach yw dychymyg y plant – felly fe dwi’n fwy na hapus yn gwerthu tocynnau, a chael clonc a chân ar y ffordd i Lanlledrith.