Skip to content

S4C

Dwl

Dwl

Dyma stori Dwl

Helo bawb! Dwl ‘dwi –Dwl y ci direudus! Dwi wrth fy modd yn chwarae o gwmpas mewn annibendod o bob math, ond peidiwch a dweud wrth Doli! Haha!

Dwi hefyd yn hoff iawn o grafu o gwmpas yn y baw yn snwffian o gwmpas am wahanol arogleuoedd, ac o fwyta fy hoff fwyd – caws!

Mae Dwdlen a finne wedi bod yn Gorsaf Hud ers amser maith – hyd yn oed ers cyn i Doli gyrraedd.

Roedd y ddau ohonom yn bryderus iawn pan symudodd yr hen berchnogion i orsaf newydd yn y cymylau, ond nawr does nunlle hapusach na Gorsaf Hud, yn enwedig pan mae’r lle’n llawn annibendod!