Helo ffrindie! Dwdlen y ddoli dylwythen deg ydwi, a fi ydi’r un sydd yn ceisio cadw trefn ar Dwl – mae’n waith caled dros ben!
Dwi’n hoff iawn o fyw yn Gorsaf Hud, mae’n llawn hwyl, sbri, hud a lledrith – sy’n berffaith ar gyfer tylwythen deg fel finne. Does dim dau ddiwrnod yr un peth!
Dwi’n hoff iawn o edrych ar Doli’n dawnsio Fflamenco, a gwrando arni’n canu’n llon am Sbaen, mae hi’n llenwi’r orsaf gyda shwt gymaint o hapusrwydd, ac yn gwneud i mi fod eisiau dawnsio a chanu hefyd!