Skip to content

S4C

Doli

Doli

Wel helo! Hola! Shwmae? Fi yw Señorita Delores Jones - ond fe gewch chi fy ngalw i’n Doli, wrth gwrs!

Fel ych chi’n gwybod, fi sy’n edrych ar ol Gorsaf Hud, ac yn ei gadw’n dwt ac yn daclus - gyda ‘chydig bach o help gan Dafs, Del a’r dychmygwyr wrth gwrs!

Gall edrych ar ol yr orsaf fod yn waith caled weithie, felly ‘wi’n falch iawn o gael ychydig bach o help llaw o dro i dro – a pham fyddai’n cael rhyw funud neu ddwy i fi fy’n hun rwy’n hoff iawn o ganu neu dawnsio Fflamenco. Ole!