Skip to content

S4C

Del y Porthor

Del y Porthor

Helo ‘na bawb! Del ydw i – fi sy’n helpu Dafs i helpu Doli gadw Gorsaf Hud yn dwt ac yn daclus, fel pin mewn papur!

‘Wi’n dwlu ar fod yn borthor, ac ‘wi’n dwlu ar Gorsaf Hud ‘fyd. I ‘weud y gwir, ‘wi wastad wedi dwlu ar Gorsaf Hud, ers i mi fod yn eneth ifanc yn teithio drwy Gorsaf Hud ar y ffordd i weld i mam-gu a tad-cu Cwm Swyn.

‘Wi’n cofio edrych drwy ffenest y trên bach stêm a gweld yr holl deithwyr diddorol ar y platform, gyda phob mathau o ryfeddodau - clociau a chacennau, lluniau a llieiniau, tegannau a thegellau - heb son am yr holl gesys, bagiau a phecynnau difyr a diddorol!

Roeddwn yn gwybod yn syth fy mod eisiau bod yn rhan o’r holl liw a’r bwrlwm.

Am le i sbarduno’r dychymyg!