Skip to content

S4C

Deiniol

Deiniol

Wel helo ‘na ffrindia! Deiniol ‘dwi , fi sy’n gwerthu bwyd a diod ar y Trên Bach Hud – brechdana, paneidia, sudd oren a sudd ceirios, afala a chreision. Pob mathau o bethe blasus i gadw’r teithwyr llon yn hapus!

Dwi ddim wastad ‘di gweithio ar y Trên Bach Hud cofiwch, naddo . Mi oni’n arfer gweithio ar fferm orennau, hefo fy mrawd Dilwyn, yn tyfu orennau er mwyn gwneud sudd oren, pop oren, hufen ia oren, lollipops oren - pob mathau o ddanteithion a melysbethau oren!

A wedyn fe symudodd Dilwyn i Sbaen er mwyn iddo gael tyfu orennau trwy gydol y flwyddyn yn yr heulwen. Ond ta waeth – dwi bellach yn cael blas bach o Sbaen yn Gorsaf Hud, diolch i Doli!