Helo ‘na ffrindie, fi yw Dafydd – ond mae fy ffrindie i gyd yn fy nghalw i’n Dafs. A chan fy mod i’n ffrindie gyda pawb, mae pawb yn fy ngalw i’n Dafs! Hehe! Cefais fy ngeni ar ddydd Ffwl Ebrill, felly ‘sdim rhaid gweud mod i’n hoffi rhyw jôc fach o dro i dro!
‘Wi’n dod o lond teulu o ffermwyr sbageti . Roedd fy nhad i, a ‘i dad ef, a’i dad ef hefyd i gyd yn gweithio ar fferm sbageti yma yn Llanlledrith, ond roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth go wahanol – a dyna pham wi’n gweithio yn Gorsaf Hud.
‘Wi’n dwlu ar gesys! Cesys coch, cesys melyn, rhai mawr a rhai mân. Cesys o bob lliw a llun. Mae hi’n bosib dweud llawer am berson drwy edrych ar eu cas, ac os y buaswn i’n gas,’wi’n credu mae un bach, lliwgar a llawn hwyl a sbri fuaswn i!