Yr Ystafell Felen
Mae waliau’r Ystafell Felen wedi cael eu paentio mewn paent Cennin Pedr – yr union baent sy’n cael ei ddefnyddio i baentio Cennin Pedr yn y gwanwyn. Mae Doli yn hoff o gael te-partïon crand dros ben yn ystafell hon, o dan y canwyllyron disglair.
Yr Ystafell Lelog
Yr Ystafell Lelog yw hon, ble mae Blodwen yr arth sy’n dawnsio bale yn byw gyda Robin y Sowldiwr. Os edrychi di drwy dwll clo’r Ystafell Lelog toc wedi hanner nos, efallai y gwelwch chi Blodwen a Robin yn dawnsio’n osgeiddig yng ngolau’r lleuad.
Yr Ystafell Binc
Dyma’r Ystafell Binc, lle mae’r hen gloc tad-cu’n tician yn dawel wrth iddo weld popeth sy'n diggwydd. Mae bod yn yr Ystafell Binc fel bod mewn swigen ysgytlaeth mefus, gyda phob twll a chornel yn datgelu math arall o binc!
Yr Ystafell Wen
Mae’r ystafell yma fel tudalen wen, lân i’r Dychmygwyr gael llunio a phaentio arni fel y mynnent.