Skip to content

S4C

Dolenni

Cyw Dolen at wefan Cyw

Tri Mewn Rhes Clicia yma i chwarae!

Gwylia Gorsaf Hud Mae Gorsaf Hud ar-lein!

Rhieni

Rhannwch y daith...

Mae dychymyg yn bopeth; yn rhagflas o'r atyniadau sydd i ddod mewn bywyd - Albert Einstein

Mae hefyd yn llawer o hwyl - defnyddio eich dychymyg i greu rhywbeth newydd o bethau hen. Mae Gorsaf Hud yn le hudol ble mae plant yn defnyddio eu dychymyg i greu rhywbeth - boed yn degan, yn fodel, yn gân neu'n gerdd - gan ddefnyddio'r Eiddo Coll sydd wedi cael eu gadael ar ol.

Caiff y plant eu cynorthwyo gan Feistress yr Orsaf - Dolores Jones (Doli i'w ffrindiau) - Dafs a Del y porthorion a Deiniol a Dwynwen - giard a sdiward y Trên Bach Hud. Y plant sy'n arwain y dychmygu, wrth ddefnyddio'u syniadau - y nhw yw'r dychmygwyr.

Ym mhob rhaglen mae pump o blant yn teithio ar y trên bach i Gorsaf Hud. Daw Doli a'r pothorion i'w croesawu, ac, wedi eu harwain gan y plant, mae'r grwp yn treulio amser yn un yr stafelloedd lliwgar, yn creu ac yn gwneud.

Dewch yn ol am fwy o syniadau ar wneud y mwyaf o ddychymyg eich plentyn dros yr wythnosau nesaf...