Skip to content

S4C

Dawnswyr

I wneud dawnsiwr pot iogwrt, bydd angen:

  • Potiau diod iogwrt
  • Glanhawyr Cetyn
  • Pennau Ffelt
  • Gwellt
  • Cardfwrdd
  • Tâp gludiog
  • Rhuban

Cam 1: Gofynna i oedolyn dorri disgiau bach allan o'r cardfwrdd. Yna, fe gei dynnu llun gwynebau bach ar y disgiau cardfwrdd.

Cam 2: Tapia'r disg cardfwrdd i'r gwelltyn, cyn tapio'r gwelltyn i fewn i'r pot diod iogwrt.

Cam 3: Clyma'r glanhawr cetyn o gwmpas wddf y pot diod iogwrt - dyma freichiau'r dawnsiwr!

Cam 4 : Clyma'r rhuban o gwmpas wdddf y dawnsiwr. Mae nawr yn barod i ddawnsio!