Skip to content

S4C

Roced i'r Lleuad

I wneud roced i’r lleuad, bydd angen:

  • Potel blastig 2L
  • Topiau poteli pop
  • Papur sgleiniog
  • Tâp gludiog
  • Cardfwrdd
  • Glud PVA
  • Glud sgleiniog lliwgar

Cam 1: Gluda’r botel blastig a lapia’r papur sgleiniog o gwmpas y botel, o’r naill ben i’r llall.

Cam 2: Gofynna i oedolyn dorri siapiau’r adenydd a’r esgyll. Gluda rhain, cyn eu gorchuddio gyda’r papur sgleiniog. Paentia batrymau ar yr adenydd a’r esgyll gyda’r glud sgleiniog.

Cam 3: Defnyddia’r tâp gludiog i osod yr adenydd ar y roced.

Cam 4: Addurna’r roced gyda gweddill y glud sgleiniog lliwgar a’r topiau potel pop. Rwyt nawr yn barod i hedfan am y sêr!