Skip to content

S4C

Print tatws

I wneud printiau tatws, bydd angen:

  • Tatws
  • Torrwyr bisgedi
  • Paent crefft trwchus
  • Papur wal

Cam 1: Yn gyntaf, bydd angen i ti benderfynu ar siap y print tatws - seren, lleuad, triongl neu gylch efallai?

Cam 2: Bydd angen i ti ofyn i oedolyn i dorri'r tatws yn ddisgiau 3cm o drwch. Yna, fe gei dorri'r siap allan o'r tatws.

Cam 3: Rwyt nawr yn barod i wneud printiau tatws! Rho'r tatws yn y paent, cyn ei bwyso ar y papur wal. Arosa iddo sychu cyn addurno'r tŷ gyda'r printiau!