I wneud masgiau anifeiliaid, bydd angen:
- Bocs Grawnfwyd
- Papur Newydd
- Pennau Ffelt
- Platiau Papur
- Glud PVA
- Paent Crefft
- Cortyn
Cam 1: Gofynna i oedolyn dorri siâp cylch allan o gefn y bocs grawnfwyd, fel ei fod yn ffitio am dy ben. Gluda'r papur newydd i'r bocs, fel ei fod yn bosib ei baentio. Paentia'r masg gyda dy hoff liw.
Cam 2: Torra siâp triongl allan o ochr y plât papur. Gluda'r plât at flaen y masg. Torra 5-6 twlll y naill ochr a'r llall i'r triongl a rho'r glanhawyr cetyn drwyddyn nhw - rhain yw'r blew!
Cam 3: Gluda'r botymau at flaen y masg, i wneud llygaid.
Cam 4: Torra ddau dwll yng nghefn y masg. Mesura'r cortyn rownd dy ben cyn ei glymu drwy'r tyllau.
Cam 5: Addurna'r masg gyda'r pennau ffelt. Rwyt nawr yn barod i wisgo'r masg!