I wneud y blodau cochion, bydd angen:
- Papur crêpe coch
- Papur gwyrdd
- Gwellt hir lliwgar
- Tâp gludiog gwyrdd
Cam 1: Torra'r papur crêpe coch yn stribedi hir tenau (tua 5-10cm o lêd, 50 cm o hyd).
Cam 2: Lapia'r papur crêpe coch o gwmpas un pen o'r gwelltyn hir lliwgar.
Cam 3: Tapia waelod y blodyn gyda'r tâp gludiog gwyrdd.
Cam 4: Gofynna i oedolyn dorri siap deilen o'r papur gwyrdd. Tapia'r ddeilen at y gwelltyn gyda'r tâp gwyrdd. Rwyt nawr yn barod roi'r blodyn i dy hoff berson!